Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Cymeradwywyd yn y cyfarfod ar 3 Rhagfyr 2013

 

Dyddiad a Lleoliad y cyfarfod

18 Hydref 2013 yng Nghlwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin, Caerfyrddin

Yn bresennol

Rebecca Evans AC (Llafur Cymru – Cydgadeirydd), Paul Swann (Anabledd Cymru – Ysgrifennydd), Rob Wilson (Sefydliad Rowan), Owen Williams (Vision in Wales), Rebecca Phillips (Vision in Wales –  cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd), Norman Moore (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar), Paul Warren (Diverse Cymru), Betsan Caldwell (Cymdeithas Cludiant Cymunedol), Julie Thomas (Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr), Rhiannon Hicks (Cyngor Sir Ceredigion), Tony Hawkins (Cynghrair Pobl Anabl gyda'i gilydd Ceredigion), Maggie Hayes (Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot), Kevin Pett (Cyngor Sir Caerfyrddin), Bob Gunstone (Uwch-wirfoddolwr), Genine Gunstone (Kevin Brown (Cynorthwyydd Personol Janine Gunstone), Janine Gunstone (unigolyn), Ivan Timmis (Enterprising Employment Wrecsam), Clive Emery (Enterprising Employment Wrecsam), Paul Warren (Diverse Cymru), Catherine Lewis (Plant Anabl yng Nghymru), Anthony Hawkins (Grŵp Gweithredu Anabledd Cymru), Paul Evans (Pennaeth Swyddfa Rebecca Evans).

Ymddiheuriadau

Henry Langen, Janice Powers, Simon Thomas AC, David Rees AC, Bethan Jenkins AC, Mark Isherwood AC, Rhian Davies, Ellie Hicks, Sharon David, Dylan David, Peter Jones, Andrea Gordon

1.

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Rebecca Evans AC (RE) bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd (CPGD) a rhoddodd grynodeb byr o ddiben a chefndir CPGD. Cyflwynodd aelodau'r Grŵp eu hunain i'w gilydd.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi (18/6/13)

Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir.

Tynnodd PS sylw at yr amrywiol gamau i'w cymryd o'r cyfarfod diwethaf.

 

Cadarnhaodd fod y wybodaeth am ‘Talking Points’, datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog ar eiriolaeth a'r cynnig drafft ynglŷn â gwelliant i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cael eu dosbarthu.  Awgrymodd fod y rhain yn cael eu dosbarthu eto er lles y rheini nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf. 

 

Cam i’w gymryd: PS i ddosbarthu’r wybodaeth am 'Talking Points', y Fframwaith ysgrifenedig ar Eiriolaeth a’r cynnig drafft ynglŷn â gwelliant i bapurau'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. 

 

Nododd PS nad oedd eto wedi gwahodd Gwenda Thomas AC na Jeff Cuthbert i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r CPGD ond bydd yn gwneud hynny yn y man.

 

Rhoddwyd y dasg i PS o ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ynglŷn a recordiadau sain o'r Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP).  Roedd disgwyl ateb erbyn canol mis Hydref, ond ni chafwyd un hyd yma.  Ychwanegodd ei fod wedi ysgrifennu at Esther McVay hefyd, y Gweinidog Pobl Anabl ar y pryd.  Cafwyd ateb ond nid oedd yn bendant. 

 

Bydd PS yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp. 

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r materion niferus sy'n gysylltiedig â’r asesiadau PIP.

 

Nododd BG y gwrthodwyd hawl i gleient ddod ag eiriolwr gydag ef yn ddiweddar.  Nododd hefyd nad yw Capita Tower, Caerdydd yn hygyrch.  Mae wedi gofyn am gopi o'r archwiliad mynediad drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond nid yw wedi cael ymateb hyd yma.

 

Cynigiodd RE roi cymorth i BG gael yr archwiliad mynediad a'i rannu gyda'r grŵp fel y gellir trafod y camau nesaf i'w cymryd.

 

Ychwanegodd NM y gwrthodwyd yr opsiwn o wneud recordiad fideo o'r asesiadau ar gyfer pobl sydd wedi colli'u clyw.  

 

Ychwanegodd AH fod Grŵp Gweithredu Anabledd Cymru wedi cyflwyno nifer o astudiaethau achos ond nad ydynt wedi cael unrhyw adborth.  Gofynnodd a allai'r grŵp CPGD fynd ar drywydd hyn.

 

Awgrymodd RE fod y grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog newydd yn y lle cyntaf, yn cyfleu'r drafodaeth. 

 

Ychwanegodd RE y gallai CPGD gynnig cymorth pe bai adeg yn dod pan fyddai grwpiau pobl anabl yn dymuno ffurfio ymgyrch genedlaethol.  

 

Awgrymodd RE hefyd y dylid cyflwyno Datganiad Barn yn y Cynulliad i adlewyrchu'r drafodaeth. 

 

Cam i’w gymryd: RE i gyflwyno Datganiad Barn ar recordiadau sain a chlyweledol o asesiadau PIP. 

 

Cam i’w gymryd: PS i ysgrifennu at y Gweinidog newydd i dynnu sylw at bryderon y grŵp am asesiadau PIP.

 

Codwyd rhai materion yn ymwneud â'r dreth ystafell wely.  Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau amser, awgrymodd RE ei fod yn cael ei roi fel eitem ar agenda cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.

Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw'n Annibynnol

 

Pwyntiau Allweddol

Eglurodd PS yn gryno sut y daeth y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol i fodolaeth.  Cadarnhaodd i'r Fframwaith gael ei lansio ar 19 Medi.  Nododd fod gwell mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol yn parhau i fod yn fater mawr a bod angen ei ddatblygu yng Nghymru. 

 

Adleisiodd MH bryderon Paul ac ychwanegodd ei bod yn cytuno, fel Ymarferydd, bod angen eiriolaeth annibynnol, yn enwedig ar gyfer y rheini ag angen critigol sylweddol.

 

Ychwanegodd CL fod y sector Plant hefyd yn awyddus i wthio eiriolaeth annibynnol yn ei flaen.  Mae Plant yng Nghymru ar hyn o bryd yn cydlynu fforwm Darparwyr Eiriolaeth ac awgrymodd gysylltu â hwy er mwyn rhannu arbenigedd.  Bydd CL yn rhoi'r manylion i PS eu dosbarthu. 

 

Ychwanegodd CL hefyd fod problem ar hyn o bryd yn ymwneud â rôl Eiriolaeth Annibynnol o fewn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd yn cydnabod bod y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ond pwysleisiodd fod angen gwneud mwy. 

 

Cam i’w gymryd: CL i anfon manylion am y fforwm Darparwyr Eiriolaeth at PS i'w dosbarthu.

 

Gweithredu

Rhoddodd PS wybod i'r grŵp ei fod ef, Jackie Nicholls (Llywodraeth Cymru) a Catryn Holzinger (CLlLC) yn datblygu ac yn monitro fframwaith gwerthuso a fydd yn cael ei ddosbarthu er mwyn cael adborth. 

 

Ychwanegodd fod y Fframwaith yn seiliedig ar farn pobl anabl a bod angen parhau i ymgysylltu.  Nododd fod rhai meysydd gwan o fewn y fframwaith felly roedd yn bwysig sicrhau ei bod yn "ddogfen fyw" sy'n cael ei datblygu'n barhaus. 

 

Tynnodd PS sylw at ffyrdd o ddatblygu a chryfhau'r ffordd o roi'r Fframwaith ar waith.

 

-      ymgysylltu â Rheolwyr Comisiynu fel y gellir rhoi'r Fframwaith ar waith mewn ffordd ymarferol.

 

-      ymgysylltu a "selogion" y Fframwaith (h.y. y rheini sydd wedi ymrwymo i ddatblygu'r Fframwaith).

 

-      cynnwys y cyn Grŵp Llywio Cenedlaethol.

 

-      ymchwilio i ffyrdd o'i fewnosod yng nghylch adrodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn enwedig mewn  perthynas ag Erthygl 19.

 

-      adroddiad cysgodol yng Nghymru i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU ochr yn ochr ag adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun.

 

-      edrych ar sut y gellir defnyddio'r Fframwaith i ddylanwadu ar ddatblygiad y Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol. 

 

Ychwanegodd PS fod Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru, sydd â dyddiad cau o 31 Hydref yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sefydliadau pobl anabl.

 

Dywedodd RE fod y fframwaith yn dyst i bwysigrwydd ymgysylltu â phobl, cydgynhyrchu a'r trydydd sector cryf sydd yng Nghymru.

 

Adborth a thrafodaeth

Pwysleisiodd CL fod y fframwaith yn wan lle mae plant a phobl ifanc yn y cwestiwn.  Un pryder arbennig oedd y diffyg cefnogaeth yn ystod eu cyfnod pontio o fod yn blant i fod yn oedolion.

 

Mynegodd CL ei diddordeb mewn bod yn rhan o'r grŵp gweithredu. 

 

Nododd GG y dylai'r fframwaith gynnwys gofalwyr ifanc a rhieni anabl.

 

Nododd CE mai ei brofiad ef, o ran cyflogi pobl anabl, oedd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a dealltwriaeth dda ond bod hyn yn gwanháu ar lefel awdurdod lleol. 

 

Roedd MH wrth ei bodd bod y ddogfen yn canolbwyntio'n gryf ar y Model Cymdeithasol ac ar Fyw'n Annibynnol. 

 

Roedd BC yn falch o weld mai un o'r camau gweithredu yw gwella mynediad a chludiant a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â sefydliadau eraill yn ogystal â gweithredwyr cludiant masnachol. 

 

Crynhodd PS a nododd ei bod yn ddogfen i weithio arni ac i'w datblygu, yn enwedig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ac iechyd meddwl.

 

Awgrymodd RE fod y grŵp yn gwylio ond bod cynnydd yn cael ei adolygu'n flynyddol.  

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno

 

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Dywedodd PS fod llawer o welliannau'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. 

 

Eglurodd RE mai pwrpas y Bil yw llunio Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y dyfodol.  Amlinellodd amrywiol gyfnodau'r Bil.  Cafodd Cyfnod I ei gwblhau yr wythnos cynt ac mae'r Pwyllgor bellach wedi symud i Gyfnod II.

 

Ychwanegodd PS fod y llwybr Paneli Dinasyddion hefyd ar gael i'r rheini sy'n dymuno rhannu'u barn a'i gyfleu i Lywodraeth Cymru. 

 

Rhoddodd RE wybod i'r grŵp bod y Gweinidog wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant.  Mae'r wybodaeth ar gael ar-lein ac mae'n rhestru rhai o'r meysydd lle bydd gwelliannau'r llywodraeth yn cael eu cyflwyno.   PS i ddosbarthu'r linc.

 

Cam i’w gymryd: PS i ddosbarthu'r linc i Welliannau'r Llywodraeth

 

Mynegodd CL ei phryder bod adran 17 o'r Ddeddf Plant yn mynd i gael ei diddymu, lle caiff pobl anabl eu hystyried yn awtomatig fel plant mewn angen.  Roedd yn gobeithio y bydd trefniadau diogelu’n cael eu rhoi ar waith yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i sicrhau nad oes unrhyw atchweliad o wasanaethau.

 

Y Gronfa Byw'n annibynnol

Eglurodd PS fod y Gronfa Byw'n Annibynnol (ILF) ar gyfer pobl â lefel uwch o anghenion cymorth.  Penderfynodd Llywodraeth y DU gael gwared arni a datganolwyd y cyfrifoldeb am Gymru i Lywodraeth Cymru.

 

Caiff ymgynghoriad ei lansio ganol mis Tachwedd am 12-14 wythnos a chynhelir digwyddiadau ymgynghori.  Bydd Gweinidogion yn cadarnhau eu penderfyniad yn y Gwanwyn, gan adael tua blwyddyn i roi'r trefniadau newydd ar waith yng Nghymru.

 

 

Ymhlith yr opsiynau posibl mae dosbarthu i awdurdodau lleol heb neilltuo, dosbarthu i awdurdodau lleol fel grant arbennig, neu sefydlu sefydliad annibynnol i ymgymryd â'r gwaith hwn. 

 

Mynegodd MH ei phryder am y rheini a fu'n hawlio ILF cyn 1993.

 

Cynigiodd RE ganfod faint o bobl fyddai wedi cael eu heffeithio gan y mater cyn 1993 fesul awdurdod lleol a gofyn i PS i ddosbarthu'r wybodaeth. 

 

Ychwanegodd RW y dylid ystyried y rheini a gafodd eu rhwystro rhag cael mynediad at ILF yn y gorffennol hefyd. 

 

Awgrymodd RE fod y grŵp yn ymateb i Lywodraeth y DU ar yr adeg briodol.

 

Cam i’w gymryd: RE i ganfod nifer y rhai a oedd yn cael ILF cyn 1993.

 

Taliad Annibyniaeth Bersonol

Teimlai PS fod hwn eisoes wedi cael digon o sylw o dan eitem 2. 

 

5.  

Lansio Cynghrair Pobl Anabl Gyda'i Gilydd

Rhoddodd TH gyflwyniad i'r grŵp am y Cynghrair Pobl Anabl Gyda'i Gilydd. Dechreuodd drwy roi rhywfaint o wybodaeth gefndir am y ffordd y daeth y sefydliad i fodolaeth. Cafodd y sefydliad ei lansio ar 18 Medi.  Eglurodd ei fod yn gynghrair o bobl anabl unigol, sefydliadau i'r anabl ac eraill sydd â diddordeb, yng Ngheredigion.  Mae'n cynrychioli buddiannau pobl sy'n byw, gweithio neu'n astudio yng Ngheredigion, gan weithio'n arbennig dros y rheini sydd â nam corfforol, nam ar y synhwyrau neu nam niwrolegol a chyflyrau iechyd cronig hirdymor er mwyn gwella ansawdd bywyd, cyfle cyfartal, cynhwysiant cymdeithasol a mynediad at wasanaethau yn y Sir. 

 

Diolchodd RE i TH am ei gyflwyniad a chynigiodd ei chymorth i'r grŵp.

 

Rhoddodd PS wybod i’r grŵp am brosiect Llais Cymunedol Cronfa'r Loteri Fawr sy'n rhedeg ar hyn o bryd yn Sir Benfro. Ar rhyw bwynt yn ystod y datblygiad, mae'r cynllun i gysylltu â phrosiectau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Awgrymodd PS eu bod yn cysylltu ag ef am ragor o wybodaeth. 

 

6.

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig

Cyhoeddodd PS y bydd Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig ar 3 Rhagfyr yn cychwyn gyda chyfarfod CPGD rhwng 8.30am a 10am. Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n dilyn drwy gydol y dydd gan amrywiol grwpiau a sefydliadau.  Bydd Anabledd Cymru yn cynnal sesiwn ar 'sut i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus fel eu bod yn darparu'r hyn sy'n bwysig' rhwng hanner dydd a 1.30.

 

7.

Dyddiadau a themâu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

Eglurodd RE fod rheolau newydd y Grŵp Trawsbleidiol yn gofyn am i'r grwpiau fod wedi'u cyfansoddi'n ffurfiol. Felly, roedd angen enwebu Ysgrifennydd.

 

Enwebwyd PS ac yn absenoldeb unrhyw enwebiadau eraill, cytunodd pawb yn unfrydol.

 

Cytunodd Vision in Wales i barhau i gynnig eu cymorth i gynhyrchu'r cofnodion.  Cydnabu PS fod hyn yn amhrisiadwy.

 

Ychwanegodd PS y bydd Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn siarad am anabledd a thlodi yng Nghymru yng nghyfarfod nesaf CPGD ar 3 Rhagfyr.

 

Nododd PS hefyd fod Mark Isherwood AC yn awyddus i gael cyfarfod ar y thema 'cyflogaeth' ym mis Mawrth.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf i'w gadarnhau.